Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cymraeg yn y Gweithle

Heddlu Gogledd Cymru

Bu Heddlu Gogledd Cymru’n darparu cyrsiau Cymraeg mewnol i’w holl staff ers llawer o flynyddoedd.  Yn 2003, fel rhan o’r broses o gydnabod galluoedd Cymraeg fel sgil, lluniodd Heddlu Gogledd Cymru (HGC) fframwaith cymhwysedd Iaith Gymraeg i ddiffinio lefelau gallu yn seiliedig ar ddiffiniadau fframwaith ALTE.

Ers 2005 bu’n rhaid i bawb sy’n ymuno â’r Heddlu o leiaf feddu ar y gallu i ddangos cwrteisi ieithyddol mewn Cymraeg lafar, sy'n cael ei asesu gan ein prawf iaith ein hun.  Cynyddwyd hyn i allu Lefel 2 ym mis Ionawr 2008.  Mae pawb sy’n ymuno yn derbyn CD hunanddysgu ‘Cyflwyniad i’r Gymraeg’ i'w cynorthwyo i wneud hyn.

Os oes angen, darperir hyfforddiant i ymgeiswyr priodol i’w cynorthwyo i gyrraedd Lefel 2.  Mae hyn yn atal gofynion yr iaith Gymraeg rhag bod yn rhwystr i’r sefydliad ennill sgiliau eraill.

Mae rhaid i weithwyr gyrraedd Lefel 3 yn ystod eu cyfnod prawf, a chyn cael eu cadarnhau yn y swydd.  Enwebir gweithwyr i fynychu cwrs 9 diwrnod, 3 diwrnod ar y tro (tua 50 awr o amser cyswllt) gyda phrawf mewnol i ddilyn, er mwyn cyrraedd y nod o fewn y cyfnod a nodwyd ar y contract. 

Darperir cyrsiau Lefel 2 (tua 22 awr o amser cyswllt) i’r sawl sy’n ceisio am ddyrchafiad.  Bu hyn yn rhan o bolisi’r Heddlu ers 2008.

Mae cyrsiau datblygu ar gael sy’n darparu tua 94 awr o amser cyswllt yn ystod blwyddyn academaidd ac sy’n arwain at arholiadau allanol Sylfaen a Chanolradd CBAC.  Nid oes cyrsiau Lefel 4 (Uwch) yn yr Heddlu ar hyn o bryd, ond mae un adran yn cynnal cynllun peilot.

O safbwynt tendr cystadleuol, bu Coleg Llysfasi yn gweithio mewn partneriaeth â HGC i lunio a chyflwyno’r cyrsiau yn adeiladau HGC neu yn y Coleg.  Mae HGC hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector Cyfiawnder Troseddol (Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, y Gwasanaeth Prawf a Heddluoedd eraill Cymru) er mwyn rhannu cwrs undydd sylfaen / mynediad (Lefel 1) cyffredinol a chost effeithiol.

Rydym yn annog gweithwyr i fynychu cyrsiau a digwyddiadau yn y gymuned fel rhan o’u datblygiad parhaus yn yr Iaith Gymraeg, a hysbysebir y rhain yn fewnol.

llinell

Yr Iaith ar Waith

Stondin gwybodaeth i gefnogi staff Cyngor Sir Conwy
           
llun swyddogionAm fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi mabwysiadu’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus mae’n bwysig eu bod yn cefnogi staff sydd eisiau dysgu Cymraeg neu sydd am wella eu sgiliau iaith.  Oherwydd hynny trefnwyd stondin gwybodaeth am Gymraeg i Oedolion yn y Dderbynfa ym Modlondeb (Swyddfeydd y Cyngor yng Nghonwy) am bythefnos yn ddiweddar.  Darparodd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru stondin gyda gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg ar bob lefel gan wahanol ddarparwyr yn yr ardal ynghyd â manylion am gyfleoedd ymarfer siarad, digwyddiadau cymdeithasol a dysgu anffurfiol.  Roedd sawl cyfle hefyd yn ystod y pythefnos i bobl holi un o staff y Ganolfan wyneb yn wyneb ynglŷn â beth oedd y dewis gorau iddyn nhw, a manteisiodd sawl un ar y cyfle hwnnw. 

Yn ôl staff y dderbynfa roedd tipyn o fwrlwm ar y stondin. Mae’n debyg bod ystod eang o bobl gan gynnwys ein staff, cynghorwyr, aelodau’r cyhoedd ac ymwelwyr i gyd wedi mynegi diddordeb a mynd â gwybodaeth gyda nhw.  Roedd llawer iawn mwy o staff yn gwisgo’r bathodynnau lapél oren Iaith Gwaith yn sgil yr ymweliad. 

Mae’r Cyngor yn falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio â’r Ganolfan i dynnu sylw at ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion a chodi proffil ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymhlith  staff a chyhoedd yr ardal. 

Yn y llun mae Siwan Hywel, Swyddog Cyfathrebu'r Ganolfan (ar y dde) a Mudd Jones, un o staff y dderbynfa ym Modlondeb (ar y chwith).

llinell